top of page
Studio 11 resized.jpeg

CYNLLUN CARLAM FFEITHIOL

CYMRU A GORLLEWIN LLOEGR

Rhaglen ddatblygu er mwyn cyflymu gyrfaoedd cynhyrchwyr di-sgript trwy leoliadau cyflogedig, mewnwelediad i gomisiynu, hyfforddiant a mentora gan gomisiynwyr a gweithwyr y diwydiant

Mae’r Cynllun Carlam Ffeithiol yn rhaglen i ddatblygu gyrfa ac enw da o fewn y bedair cenedl. Mae’n gyfle i gyflymu gyrfaoedd cynhyrchwyr profiadol ac uchelgeisiol, ac i greu enillwyr busnes ar gyfer y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau.

Mae’r cynllun unigryw hwn yn rhoi cyfleoedd rhwydweithio er mwyn codi proffil, yn cynnig sesiynau hyfforddi i ehangu sgiliau, sesiynau mentora gan y diwydiant a chomisiynwyr, er mwyn meithrin hyder y cynhyrchwyr, cynhyrchwyr/cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr cyfresi, uwch gynhyrchwyr a chynhyrchwyr datblygu, gorau. Wrth wraidd y cynllun mae lleoliadau gwaith yn y diwydiant mewn rôl ymestynnol a fydd yn datblygu gyrfa’r unigolyn ac yn cryfhau eu CV.

 

Mae croeso i bawb sydd â'r profiad perthnasol wneud cais. Ein huchelgais yw creu carfan Cynllun Carlam amrywiol. Rydym eisiau gwella cynrychiolaeth amrywiaeth ethnig, anabledd a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac rydym wedi ehangu'r ystod o brofiad sydd ei angen er mwyn gwneud cais am y cynllun. Ar gyfer cynllun Cymru, nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn orfodol ond bydd dau le yn cael eu clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl sydd â sgiliau cyfathrebu iaith rhagorol, ac sydd wedi ymrwymo i weithio’n ddwyieithog.

​

Mae'r Cynllun Carlam Ffeithiol yn rhedeg yn flynyddol yng Nghymru a Gorllewin Lloegr i sicrhau bod cynhyrchu di-sgript yn parhau i fynd o nerth i nerth.

​

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa o:

  • Hyfforddiant gorau'r diwydiant

  • Lleoliadau gwaith cynhyrchu cyflogedig

  • Mentora gan gomisiynwyr a gweithwyr yn y diwydiant

  • Cipolwg ar brosesau a blaenoriaethau comisiynu

  • Cefnogaeth un-i-un

  • Hyfforddiant gyrfa

  • Cyfle i fod yn rhan o garfan o gynhyrchwyr rhagorol

CEISIADAU

Ceisiadau nawr ar gau  ar gyfer FFT 2024/25.

​

Cofrestrwch ar gyfer FFT 2025/26 yma.

Gweminar C&A

Ebrill 2024

Ceisiadau ar gau. 

DEWCH I GWRDD Â CHRIW CYNLLUN CARLAM Y GORFFENNOL

Darllenwch am griw’r Cynllun Carlam a sut mae’r rhaglen wedi datblygu eu gyrfaoedd.

Gwrandewch ar ambell un sydd wedi bod ar y Cynllun Carlam yn sôn am fod yn rhan o’r cynllun

FAQ
  • Beth mae'r rhaglen yn ei gynnwys?
    Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa o: Leoliadau gwaith cynhyrchu wedi'u curadu mewn rôl ymestynnol, ar gynyrchiadau a fydd yn codi eu proffil, yn ehangu eu rhwydweithiau ac yn datblygu eu sgiliau proffesiynol ac arwain. Dau fentor: comisiynydd o ddarlledwr sy’n rhanddeiliad, i gynnig mewnwelediad a chyngor strategol ar y diwydiant, a mentor arbenigol o’r diwydiant i gynnig cymorth gweithredol ac ychwanegol tra yn y lleoliad gwaith. Hyfforddiant gyrfa. Mynediad unigryw at gomisiynwyr darlledwyr sy’n rhanddeiliaid. Cefnogaeth un-i-un barhaus. Bod yn rhan o garfan gefnogol o gyfoedion sy'n gweithio ym maes cynhyrchu ffeithiol yng Nghymru a Gorllewin Lloegr. Hyfforddiant wedi'i dargedu, fel: Deall fformatau a sut i greu cynnwys a all ddychwelyd; Adrodd straeon a sgriptio; Arweinyddiaeth greadigol, rheoli pobl, cyd-drafod a chyfathrebu; Effaith a gwytnwch personol; Cynnig a chyflwyno syniadau.
  • Am beth ydyn ni’n chwilio?
    Gwneuthurwyr rhaglenni ffeithiol creadigol ac arloesol neu ddatblygwyr sy’n angerddol am adrodd straeon ac sydd â mewnwelediad a gwybodaeth am y diwydiant. Cynhyrchwyr sydd wedi ymrwymo i wella amrywiaeth a chwarae eu rhan yn y newid hwnnw. Pobl sy’n frwd dros bosibiliadau digidol er mwyn gwella profiad cynulleidfaoedd. Cynhyrchwyr sy’n hyderus yng nghryfder eu barn olygyddol. Cynhyrchwyr sy’n gallu cymryd risgiau a herio'r sefyllfa fel ag y mae. Arweinwyr creadigol a deinamig neu ddarpar arweinwyr. Pobl sy'n croesawu newid ac sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau. Datryswyr problemau creadigol sy'n gallu jyglo blaenoriaethau heb golli golwg ar y nod. Meddylwyr strategol sy'n deall sut i gyrraedd pob cynulleidfa.
  • Pwy ddylai wneud cais?
    Pwrpas y Cynllun Carlam Ffeithiol yw magu hyder a chodi proffil talent cynhyrchu ffeithiol Cymru a Gorllewin Lloegr gyda’r nod o godi eu proffil a dod yn enillwyr busnes i’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau. I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio yn y sector di-sgript yng Nghymru neu Orllewin Lloegr a bod yn: Gynhyrchydd/gyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, cynhyrchwyr cyfresi a chynhyrchwyr datblygu gyda phrofiad gwaith profedig mewn cynhyrchu di-sgript yng Nghymru neu Orllewin Lloegr. Cynhyrchwyr llai profiadol sydd angen cymorth i symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfaoedd. Gweithio mewn unrhyw genre di-sgript. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: adloniant ffeithiol, rhaglenni yn ystod y dydd, rhaglenni dogfen, ffeithiol arbenigol, neu ddatblygu. Gallu dangos meddwl strategol. Gwneuthurwr rhaglenni sy'n sefyll allan, gyda dawn olygyddol a chreadigol. Golygyddol a chreadigol hyderus, a bod yn barod i wthio ffiniau a mentro i herio rhagdybiaethau. Arloesol gyda syniadau gwreiddiol sydd wedi bod yn allweddol wrth greu rhaglenni y mae cynulleidfaoedd a darlledwyr yn eu caru. Angerddol a meddu ar brofiad o greu neu weithio mewn timau cynhyrchu gydag ystod eang o leisiau a chefndiroedd. Arweinydd strategol – neu â'r potensial i fod – gyda'r sgiliau a'r gwytnwch i arwain timau cydweithredol a chreadigol. Gallu darparu datganiad ategol (200-300 gair) gan gyflogwr blaenorol neu gyflogwr presennol neu Uwch Gynhyrchydd. Gallu cymryd rhan yn y rhaglen ddatblygu hon. Rhaid i chi fod ar gael i dderbyn lleoliad priodol ac ymrwymo i fynychu rhwng un a dau ddigwyddiad hyfforddi neu gomisiynu bob mis.  Rydym yn chwilio am amrywiaeth o leisiau, mewnwelediadau a phrofiad. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant teledu, gan gynnwys y rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau, pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a phobl sy’n dychwelyd i’r gwaith. 
  • Beth yw ymrwymiad amser y Cynllun Carlam Ffeithiol?
    Mae’r Cynllun Carlam Ffeithiol yn para am flwyddyn. Bob mis, bydd un diwrnod hyfforddi wyneb yn wyneb naill ai yng Nghaerdydd (BBC) neu Fryste (Channel 4) y bydd yn ofynnol i griw’r Cynllun Carlam ei fynychu. Disgwylir i gynyrchiadau gefnogi eu presenoldeb. Bydd 1-2 ddosbarth meistr ar-lein amser cinio gan wneuthurwyr rhaglenni arbenigol bob mis h.y., Olly Lambert (Ukraine: The People's Fight), Morgana Pugh (Aids: The Unheard Tapes), Peter Wallis-Tayler (Ambulance), Kari Lia (Break Point), Liesel Evans (Parole), Amanda Lyon (Inside Our Autistic Minds). Mae'r rhain yn cael eu cynnal gan griw’r Cynllun Carlam o ddwy garfan y Cynllun – Cymru a Gorllewin Lloegr, a'r Alban a Gogledd Iwerddon. Lleiafswm o 20 wythnos o leoliad gwaith cynhyrchu neu ddatblygu. Bydd hyd ac amser y lleoliad yn dibynnu ar y cynyrchiadau sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn. 
  • Faint mae'r rhaglen yn ei gostio?
    Nid oes unrhyw gost i fod yn rhan o'r Cynllun Carlam Ffeithiol. Wrth wraidd y profiad Cynllun Carlam mae lleoliad gwaith cynhyrchu neu ddatblygu gyda thâl. Swydd go iawn yw hon (nid cysgodi) a bydd yn cael ei thalu ar gyfradd y farchnad a bennir gan y Cynllun Carlam Ffeithiol. Bydd hyd ac amseriad y lleoliad gwaith yn dibynnu ar y cynyrchiadau sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn, a disgwylir i griw’r Cynllun Carlam dalu'r holl gostau teithio rhesymol.
  • Sut mae gwneud cais?
    Cofrestrwch yma i gael gwybod pan fydd recriwtio ar gyfer Cynllun Carlam nesaf Cymru a Gorllewin Lloegr yn mynd yn fyw.
Film Set
What-they-say
Channel_4_logo_2015.svg.png

Gan adeiladu ar lwyddiant y Cynlluniau Carlam blaenorol, mae CCFf eleni wedi rhoi hwb i yrfaoedd carfan newydd o gynhyrchwyr dawnus ac wedi cyfoethogi ecosystem gynhyrchu Cymru a Gorllewin Lloegr ymhellach.

Daniel Fromm, Comisiynydd, Adloniant Ffeithiol Channel 4

Beth mae’r diwydiant yn ei ddweud

bottom of page