top of page

CRIW CYNLLUN CARLAM Y GORFFENNOL

CARFAN 2023

tim-wreford.jpeg

TIM WREFORD

Cymru

Gyda'r rhwydwaith cymorth a sefydlwyd gan y Cynllun Carlam, rydw i nid yn unig wedi mwynhau gwell cyfleoedd gwaith ac iechyd meddwl, ond hefyd wedi cael fy nghydnabod a'm cyflogi am y rôl y bûm yn hyfforddi ynddi ar ôl cwblhau fy lleoliad gwaith. Mae gen i hyder newydd ac rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sy'n ymwneud â’r Cynllun Carlam Ffeithiol.

Cynhyrchydd
Geraint Thomas.jpg

GERAINT THOMAS

Cymru

Mae’r CCFf wedi fy ngalluogi i ddatblygu set o sgiliau mwy cyflawn ac wedi rhoi cyfeiriad clir a phwrpasol i mi a fyddai wedi cymryd blynyddoedd i’w gyflawni o dan amgylchiadau arferol. Rydw i wedi cael y cyfle i ymgysylltu ag arweinwyr, a phrif weithredwyr blaenllaw y diwydiant a dysgu ganddyn nhw. Mae'r cynllun yn wirioneddol arloesol.

Cynhyrchdd
FJW.jpg

FFION WILLIAMS

Cymru

Mae’r Cynllun Carlam wedi agor drysau ac wedi fy nghyflwyno i rwydwaith DU gyfan o uwch-gynhyrchwyr a thimau cynhyrchu teledu dawnus a medrus. Byddai’n amhosibl imi fod wedi cwrdd ag unrhyw un o’r bobl hyn heb y cynllun hwn.

CYNHYRCHYDD CYFRESI AC UWCH GYNHYRCHYDD DATBLYGU
Elana Campbell.jpg

ELANA CAMPBELL

Gorllewin Lloegr

Mae’r Cynllun Carlam yn arloesol ar gyfer gyrfaoedd. Mae’r hyfforddiant a’r lleoliad gwaith yn helpu i’ch sefydlu, ac all arian ddim prynu’r rhwydwaith rydw i wedi’i greu ar y cynllun. Rwy'n teimlo'n fwy hyderus am y byd teledu ar ôl fy mlwyddyn ar y Cynllun Carlam.

CYNHYRCHYDD
Eric Haynes.jpg

ERIC HAYNES

Cymru

Mae CCFf yn fraint. Mae wedi fy nghyflwyno i set wych o gyfoedion. Mae wedi rhoi persbectif newydd gwerthfawr i mi ar dirwedd y byd teledu a chysylltiadau o fewn y byd teledu ac mae wedi caniatáu i mi, gyda chymorth a chefnogaeth fy nghyfoedion ac arweinwyr gwych y cwrs, i gamu’n ôl ac ailystyried fy nodau a’m huchelgeisiau fel gwneuthurwr ffilmiau. Mae'n ardderchog.

CYNHYRCHYDD CYFRESI
Sally Weale.jpeg

SALLY WEALE

Cymru

Mae CCFf wedi bod yn wych am ehangu fy rhwydweithiau a rhoi mewnwelediad i mi i wahanol ddulliau golygyddol o ymdrin â chynnwys ar draws amrywiaeth enfawr o genres a llwyfannau. Mae’r cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth wedi bod yn amhrisiadwy – diolch i bawb a gyfrannodd.

CYNHYRCHYDD CYFRESI
Jacqueline Lee headshot.jpg

JACQUELINE LEE

Cymru

Mae’r Cynllun Carlam Ffeithiol wedi chwalu rhwystr anweledig i mi rwydweithio, yn benodol Channel 4. Rydw i wedi adeiladu rhwydwaith newydd a gwybodus o gyfoedion ac wedi gweithio gyda chwmni na fyddwn i efallai byth wedi gweithio iddo oni bai am y cynllun. Mae'r lleoliad wedi rhoi hyder i mi anelu'n uwch, adeiladu fy hyder a dileu unrhyw ofn a rhagdybiaethau oedd gen i o weithio gyda chomisiynwyr rhwydwaith.

CYNHYRCHYDD CYFRESI
Hannah Horan alt.jpeg

HANNAH HORAN

Gorllewin Lloegr

Mae’r Cynllun Carlam wedi rhoi’r hyder i mi wthio fy hun yn greadigol ac yn broffesiynol, yn ogystal â rhoi rhwydwaith amhrisiadwy o gyfoedion, mentoriaid a chysylltiadau i mi yn y diwydiant. Mae’n lle diogel i ofyn cwestiynau, cymryd risgiau a dysgu sgiliau newydd sydd wedi rhoi’r cyfle i mi fyfyrio ar fy ngyrfa hyd yma ac ailystyried fy uchelgeisiau wrth symud ymlaen.

CYNHYRCHYDD CYFRESI
Craig Withycombe.jpeg

CRAIG WITHYCOMBE

Cymru

Mae CCFf wedi bod yn brofiad gwych. Mae'r dosbarthiadau meistr, diwrnodau hyfforddi a’r gefnogaeth gyffredinol wedi bod yn wych. Mae'n heriol ac yn werth chweil ac rwy'n teimlo ei fod wedi'i gynllunio gyda meddwl ystyriol, er mwyn cael y gorau ohonoch gyda'r nod o gyflymu eich eich gyrfa.

CYNHYRCHYDD CYFRESI
Noa Snowdon.jpeg

NOA SNOWDON

Gorllewin Lloegr

Mae’r Cynllun Carlam wedi bod yn brofiad grymusol iawn sydd wedi newid cwrs fy ngyrfa. Gwnaeth yr hyfforddiant cynhwysfawr a’r mentora pwrpasol fy ngwthio allan o’m man cysurus, ehangu fy rhwydwaith yn sylweddol a rhoi’r cyfle i mi weithio o fewn genre newydd.

CYNHYRCHYDD CYFRESI

CRIW CYNLLUN CARLAM Y GORFFENNOL

Jasmyn McGuile.jpeg

JASMYN MCGUILE

Roedd lleoliad gwaith CCFf Jasmyn yn RDF West lle roedd yn uwch gynhyrchydd datblygu gyda chyfrifoldeb am sefydlu tîm datblygu ategol cyntaf RDF. Aeth Jas ymlaen i sicrhau rôl fel uwch swyddog comisiynu ar gyfer adloniant ffeithiol a digwyddiadau yn y BBC, ac mae bellach yn gomisiynydd.

Roedd y Cynllun Carlam Ffeithiol yn brofiad amhrisiadwy, a newidiodd fy ngyrfa. Mae’r fentoriaeth gan y dalent orau yn y diwydiant, ynghyd â hyfforddiant manwl a phwrpasol, wedi cael effaith anhygoel ar fy hyder a dilyniant fy ngyrfa.

Iwan England.jpeg

IWAN ENGLAND

Roedd lleoliadau gwaith CCFf Iwan mewn pedwar cwmni annibynnol yng Nghymru lle bu’n uwch gynhyrchydd ar 4 x 30 ffilm ar gyfer cyfres Our Lives ar BBC 1 ac yn gweithio gyda thîm comisiynu BBC Cymru a chydweithwyr yn y Gwledydd i guradu’r gyfres. Mae Iwan bellach yn gweithio fel Pennaeth Comisiynu Rhaglenni Di-sgript yn S4C lle mae’n gyfrifol am ddatblygu cyd-gynyrchiadau, cyfresi a fformatau cyfyngedig premiwm.

Gwnaeth y Cynllun Carlam gadarnhau fy nghariad at Uwch Gynhyrchu, ehangu fy mhrofiad o weithio gyda gwahanol gwmnïau cynhyrchu a chomisiynwyr a chryfhau fy sgiliau a gwybodaeth mewn pob math o feysydd. Mae’r hyfforddiant, mentora a lleoliadau’n werthfawr, ac yn wahanol i lawer o gynlluniau eraill mae’n creu rhwydwaith cefnogol ymhlith y cyfranogwyr sy’n para ymhell ar ôl i’r cwrs ddod i ben.

Cher 2.jpeg

CHER ADAMSON

Llwyddodd Cher i symud o ddatblygu i gynhyrchu tra ar ei lleoliad gwaith Cynllun Carlam Ffeithiol. Lansiodd a chynhyrchodd y gyfres gyntaf o Aldi’s Next Big Thing yn South Shore ar gyfer Channel 4 ac aeth ymlaen i ennill ail gomisiwn, gan gyflogi 2 o’r garfan Cynllun Carlam nesaf ar gyfres 2.

Trawsnewidiodd y Cynllun Carlam fy ngyrfa yn llwyr - cefais fy rôl gyntaf fel Cynhyrchydd Cyfres mewn cwmni rydw i wrth fy modd yn gweithio iddo, ac mae gen i lawer iawn o barch tuag ato. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydw i'n dal gyda nhw ac rydw i'n teimlo'n fodlon iawn ar fy ngyrfa ac yn llawn cyffro i weld beth sy'n dod nesaf. Mae gen i lefel hollol newydd o gymhelliant a hyder yn y gwaith a rhwydwaith amhrisiadwy o ffrindiau agos. Roedd yn un o’r blynyddoedd mwyaf o dwf a dysgu i mi ei chael yn fy ngyrfa a byddaf yn ddiolchgar am byth i bawb a fu’n rhan o wireddu hyn.

Tom Cunningham.jpeg

TOm CUNNINGHAM

Yn dilyn ei leoliad gwaith CCFf yn South Shore Wales lle bu’n gweithio ar Freddie’s Field of Dreams (BBC One) a Secret Spenders (Channel 4), mae Tom bellach yn gweithio fel Uwch Gynhyrchydd yn One Tribe TV yn goruchwylio cyfresi fel Amanda Holden's Sex: A Bonkers History (Sky History), Mayhem: The Georgian Kings (ZDF) ac eitemau The One Big Thank You ar gyfer The One Show ar BBC One.

Mae CCFf wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa hyd yn hyn ac allwn i ‘mo’i argymell ddigon i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais. Mae’r datblygiad yn fy sgiliau fel gwneuthurwr ffilmiau ac enillydd busnes y dyfodol wedi bod yn anhygoel, ac rydw i bellach yn teimlo 100% yn fwy hyderus mewn unrhyw sefyllfa deledu. Mae'r cwrs wedi'i guradu i roi addysg gyflawn 360-gradd o'r diwydiant ac o'r herwydd rwy'n teimlo fy mod yn dod yn nes at fod yn Uwch Gynhyrchydd Teledu rydw i eisiau bod.

Heledd.jpeg

HELEDD ANGHARAD

Ers gorffen CCFf yn 2022, mae Heledd wedi gweithio fel Cynhyrchydd Cyfres ar dair cyfres newydd; Rookie Nurses ar gyfer BBC 3, fformat bywgraffiadol newydd o’r enw Taith Bywyd a rhaglen ddogfen wleidyddol newydd, y ddwy gan Cardiff Productions ar gyfer S4C.

Cododd bod ar y Cynllun Carlam Ffeithiol fy mhroffil ac agor y drws i rwydwaith ehangach o weithwyr proffesiynol y diwydiant. Gwnaeth y cyfuniad o hyfforddiant gyrfa, diwrnodau hyfforddi rhagorol a mentora proffesiynol gan rai o’r goreuon yn y busnes ddatblygu fy sgiliau, magu fy hyder a rhoi’r adnoddau angenrheidiol i mi i fod yn gynhyrchydd cyfresi.

Catrin Rowlands.jpeg

CATRIN ROWLANDS

Ers gorffen CCFf, mae Catrin wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu ei chwmni annibynnol yng ngorllewin Cymru, sydd wedi arwain at sicrhau pum comisiwn gan S4C. Roedd bod yn rhan o CCFf wedi dysgu sgiliau amhrisiadwy i Catrin y mae’n eu defnyddio i redeg ei chwmni ei hun ac arwain ei thimau cynhyrchu.

Dysgodd bod yn rhan o’r Cynllun Carlam Ffeithiol gymaint i mi am y diwydiant ac mae wedi fy ngalluogi i deimlo’n hyderus yn fy ngallu i dyfu fy nghwmni annibynnol fy hun. Mae dysgu sgiliau newydd, cael mentor a hyfforddwr gwych yn ogystal â bod yn rhan o garfan hynod gefnogol wedi fy ngalluogi i gredu ynof fy hun unwaith eto ac i ‘fynd amdani’ fel enillydd busnes yng Nghymru.

Gwen Hughes.png

GWEN HUGHES

Ers gorffen y CCFf cyntaf erioed lle bu’n gweithio yn RAW TV ar ei lleoliad, mae cwmni cynhyrchu Gwen, Kailash Films, wedi mynd o nerth i nerth ac mae bellach yn un o gynhyrchwyr rhaglenni dogfen premiwm gorau’r DU. Ers y CCFf, mae Kailash wedi ennill sawl comisiwn, gan gynnwys dau gyd-gynhyrchiad gyda Passion Pictures lle mae ei chyn-fentor o gomisiynydd Hamish Fergusson bellach yn Gyfarwyddwr Creadigol.

Diolch i’r Cynllun Carlam Ffeithiol, rydw i nid yn unig wedi cyflymu fy ngyrfa a thyfu'r cwmni, ond hefyd wedi darganfod lefel newydd o ragoriaeth ynof fy hun. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle anhygoel hwn.

laura MR.jpeg

LAURA MARTIN ROBINSON

Yn ystod lleoliad gwaith CCFf Laura dychwelodd i wneud rhaglenni dogfen rhwydwaith ar ôl sawl blwyddyn yn gweithio ar gynnwys cenedlaethol arobryn yng Nghymru. Roedd ei lleoliad gwaith CCFf ar gyfres ddogfen nodedig gyda mynediad digynsail at yr heddlu i Channel 4. Mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth ac ers hynny mae wedi cyfarwyddo mwy o raglenni dogfen rhwydwaith oriau brig gan gynnwys ei phrosiect cyfredol ar gyfer y BBC.

Roedd CCFf yn wych ar gyfer fy ngyrfa, datblygiad personol ac ymdeimlad o gymuned. Cefais ddau fentor anhygoel o’r diwydiant, lleoliad gwaith ar gyfres ddogfen nodedig, dosbarthiadau meistr diwydiant amhrisiadwy ac ymunais â charfan o gyd-wneuthurwyr rhaglenni dawnus (a hyfryd) o Gymru.

bottom of page