EIN TÎM

Hannah Corneck
Cyfarwyddwr y Rhaglen
Hannah yw Cyfarwyddwr Rhaglen Cynllun Carlam Ffeithiol Cymru a Gorllewin Lloegr. Dyluniodd a lansiodd y cynllun yn 2019 yng Nghymru, cyn iddo gael ei gyflwyno ar draws y pedair gwlad yn 2021. Mae Hannah yn ymgynghorydd datblygiad proffesiynol gyda 30 mlynedd o brofiad mewn newyddiaduraeth a chynhyrchu di-sgript, gan adeiladu ac arwain timau i gynhyrchu rhai o frandiau teledu mwyaf adnabyddus y DU. Mae wedi bod yn gweithio fel hyfforddwr gweithredol, hyfforddwr arweinyddiaeth, strategydd pobl ac ymgynghorydd creadigol mewn sgrin a sain ers dros 15 mlynedd. Mae Hannah yn hyrwyddwr newid a’i breuddwyd yw bod y diwydiant y mae’n ei garu yn dod mor emosiynol ddeallus ag y mae’n greadigol. Dysgwch fwy am Hannah yma.

Rebecca Hanmer
Rheolwr y Rhaglen
Rebecca yw Rheolwr Rhaglen Cynllun Carlam Ffeithiol Cymru a Gorllewin Lloegr. Mae ganddi 27 mlynedd o brofiad yn y diwydiant teledu yn gweithio fel Uwch Gynhyrchydd mewn rhaglenni di-sgript, cynhyrchydd datblygu, Rheolwr Talent i’r BBC, ac mewn digwyddiadau byw.
Mae Rebecca yn parhau i ddefnyddio’i chyhyrau golygyddol gan weithio ym maes cynhyrchu a datblygu. Mae hi’n angerddol dros gefnogi a datblygu unigolion, ac wedi ymrwymo i dyfu a meithrin y gronfa dalent di-sgript yng Nghymru a Gorllewin Lloegr.
Mae’r Cynllun Carlam Ffeithiol yn atebol i grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r pedwar darlledwr ariannu, Cymru Greadigol a chwmnïau annibynnol sy’n cynrychioli’r diwydiant o Gymru a Gorllewin Lloegr.





![Boom-Y_alpha[5]_edited.png](https://static.wixstatic.com/media/af3714_0f783697e21f40c0a77c42d8ca61782d~mv2.png/v1/crop/x_0,y_0,w_2093,h_633/fill/w_169,h_51,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/Boom-Y_alpha%5B5%5D_edited.png)


